Rheolau a Gwybodaeth
- Cyfyngir y nifer o rafftiau i 55, felly y cyntaf i'r felin...
- Dylid eistedd ar raftiau, nid ynddynt (dim canws neu dingis);
- Rhaid cael o leiaf 3 person ar rafft a dim mwy na 11;
- Rhaid gwisgo siaced achub tra ar y dwr;
- Caniateir i'r rafft gael faint fynnir o 'hulls';
- Ni chaniateir 'hulls' wedi eu hadeiladu'n fasnachol;
-
Rhennir y rafftiau fewn i'r adranau canlynol (Nerth dynol neu hwyl yn unig)
- Adran Cystadleuol
- Gorau o'r Gweddill
- Adran Iau
- Dewis y Beirniaid
- Adran Benywaidd
- Rafft sydd wedi hel y mwyaf o arian - Tlws Elim
- Adran Iau: [c] rhaid bod drost 14 oed a dan 18 oed ar y 3ydd o Fehefin 2017 (Rhaid i un oedolyn fod hefo pob rafft iau);
- Rhaid i pob ymgeisydd yn adrannau a, b, d ac e fod dros 14 oed ar 3ydd o Fehefin;
- Gofynnir i pawb ar y rafft gael padl ac un sbar i bob rafft.
- Rhaid cael rhaff tynnu 5 medr wedi ei glymu i ffrynt y rafft;
- Gofynnir i bob raft arddangos eu rhif ar ochr chwith y rafft ar arwydd 12” x 24”, wedi ei ddal gan bolyn [ffon ysgub?];
- Oherwydd culni'r lonydd yn Felinheli ni chaniateir HGVs neu gerbydau 'articulated'. Dylid ddefnyddio Ffordd Caernarfon & Rowen i Ffordd Glan y Mor, h.y. o gyfeiriad Caernarfon.
- Ni chaiff unryw berson meddw gymeryd rhan;
-
Cyn cymeryd rhan rhaid i'r capten a'r criw gadarnhau ar y ffurflen a roddir eu bod yn deallt eu cyfrifoldeb i:-
- Ofalu am gystadleuwyr eraill tra ar y dwr
- Gallu nofio mewn dwr oer gyda dyfais cymorth arnofio
- Bod yn ddigon ffit yn gorfforol a meddygol i gymeryd rhan
- Bod dros 14 oed neu rhwng 14 & 18 os yn y dosbarth iau ar 3ydd o Fehefin
- Cytuno i ymddwyn yn ystyriol ac ufuddhau i gyfarwyddiadau gan swyddogion
- Rhoddir 'tally' rhifedig i bob rafft, rhaid rhoi hwn i'r Swyddog Cyfri ger giat y piar ym Mhorthaethwy (ger bwyty Dylan's)ar y diwedd. MAE HYN YN HANFODOL I'R TREFNWYR SICRHAU FOD PAWB YN CWBLHAU'R 'RUN' YN DDIOGEL;
- Gofynnir i bob criw fod wrth eu rafft 5 munud cyn y cychwyn;
- Dylai bob rafft fod ar ochr y lan i'r rhaff;
- Caiff pob rafft a criw eu harchwilio gan Archwiliwr sydd a'r farn terfynol;
- Gofynnir i bawb sy'n cymeryd rhan arwyddo eu bod yn cytuno gyda'r holl amodau cymeryd rhan a'r rheolau;
- Bydd y llinell derfyn ger Pier y Tywysog.
- Noson wobrwyo ynghyd a'r dosbarthu arian i achosion da lleol... dyddiad i'w benderfyny.
- Dylid hysbysu'r trenfwyr erbyn 31.7.17 o gyfanswm yr arian godwyd gan eich rafft i fod yn gymwys ar gyfer Tlws Elim.
DIOGELWCH:
Gwnewch:
- Wisgo esgidiau pwrpasol a gwisg pen diogelwch
- Dewch a dillad sych i newid
- Gwisgwch ''wetsuit' neu ddilad cynnes
- Byddwch yn brydlon ar gyfer derbyn cyfarwyddiadau, arolygu a'r cychwyn
- Byddwch yn wyliadwrus am gyhoeddiadau am newidiadau
- Mwynhewch ddiwrnod diogel a phleserus
Peidiwch a:
- Gwneud dim i ddifetha'r diwrnod i eraill
- Yfed alcohol gan nad ydi dwr oer a diod DDIM YN CYMYSGU
Bydd cychod diogelwch.
Sylwer fod y cychod diogelwch yn gyfrifol am warchod y cystadleuwyr gyntaf a bod llusgo rafftiau yn eilradd.
Archwilir pob rafft ar y diwrnod, os dyfernir gan y trefnwyr nad yw'r rafft yn addas i'r mor caiff ei ddiarddel a chollir y taliad.
Bydd yr amser cychwyn yn cydfynd gydag amodau llanw ffafriol.
GADEWCH I NI FOD O GYMORTH
FFURFLEN GOFRESTU. I'w chwblhau a dychwelyd gyda tsiec am £70 wnaed yn daladwy i ‘Menai Bridge Raft Run Charity’, i'n cyrraedd erbyn 21.5.2023. Wedi'r dyddiad hynny £80 fydd y gost.
CANSLO. Os bydd rhaid canslo oherwydd y tywydd ar y diwrnod caiff £20 ei dalu'n ol.
SYNIAD. Os ydych methu meddwl am achos i godi arian iddo, efallai y gallech gysidro Cronfa Elusen Menai Bridge Raft Run #1121383 – caiff yr arian ei ddosbarthu i elusennau ac achosion da lleol.
Ffurflenni i'w cwblhau a'u dychwelyd (gydag amlen fawr s.a.e.) i:
Y Trefnwyr, 1 Rhes Menai, Porthaethwy, LL59 5EL