Ras rafftiau unigryw
a gynhelir yn flynyddol ar ddyfroedd hudolus y Fenai, wedi ei leoli rhwng tirwedd ysblennydd Eryri a phrydferthwch naturiol Ynys Môn mae'n ddiwrnod o hwyl a her a hel arian i achosion da.
Gan ddechrau o'r hen borthladd llechi Felinheli aiff y rafftiau yn eu blaen heibio i Blas Newydd hanesyddol ac yna ymlaen tuag at Porthaethwy. Ar y ffordd rhaid mynd o dan y ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn gyda'r tir mawr, campweithiau peirianyddol Robert Stephenson a Thomas Telford - pontydd Britannia a Menai, yn ogystal a morio drwy'r heriol ac enwog Swellies neu Pwll Ceris.
Atgyfodwyd y Raft Run unarddeg mlynedd yn ôl ac mae bellach yn sefydlog yn y calendr - diwrnod o ymdrech a hwyl er mwyn codi arian i elusennau ac achosion da lleol.
Fideo rhagorol gan Huw Humphreys o Raft Run 2016...
neu ar dudalen Facebook (linc islaw)