Rheolau a Gwybodaeth

  1. Cyfyngir y nifer o rafftiau i 55, felly y cyntaf i'r felin...
  2. Dylid eistedd ar raftiau, nid ynddynt (dim canws neu dingis);
  3. Rhaid cael o leiaf 3 person ar rafft a dim mwy na 11;
  4. Rhaid gwisgo siaced achub tra ar y dwr;
  5. Caniateir i'r rafft gael faint fynnir o 'hulls';
  6. Ni chaniateir 'hulls' wedi eu hadeiladu'n fasnachol;
  7. Rhennir y rafftiau fewn i'r adranau canlynol (Nerth dynol neu hwyl yn unig)
    1. Adran Cystadleuol
    2. Rafft Orau - barn y trefnwyr [yn nosbarth c, d & e ]
    3. Adran Iau
    4. Adran Tafarn
    5. Adran Benywaidd
    6. Rafft sydd wedi hel y mwyaf o arian
  8. Adran Iau: [c] rhaid bod drost 14 oed a dan 18 oed ar y 20fed o Fai 2011 (Rhaid i un oedolyn fod hefo pob rafft iau);
  9. Rhaid i pob ymgeisydd yn adrannau  a, b, d ac e fod dros 14 oed ar 22.05.11;
  10. Gofynnir i pawb ar y rafft gael padl ac un sbar i bob rafft.
  11. Rhaid cael rhaff tynnu 5 medr wedi ei glymu i ffrynt y rafft;
  12. Gofynnir i bob raft arddangos eu rhif ar ochr chwith y rafft ar arwydd 12” x 24”, wedi ei ddal gan bolyn [ffon ysgub?];
  13. Oherwydd culni'r lonydd yn Felinheli ni chaniateir HGVs neu gerbydau 'articulated'. Dylid ddefnyddio Ffordd Caernarfon & Rowen i Ffordd Glan y Mor, h.y. o gyfeiriad Caernarfon.
  14. Ni chaiff unryw berson meddw gymeryd rhan;
  15. Cyn cymeryd rhan rhaid i'r capten a'r criw gadarnhau ar y ffurflen a roddir eu bod yn deallt eu cyfrifoldeb i:-
    1. Ofalu am gystadleuwyr eraill tra ar y dwr
    2. Gallu nofio mewn dwr oer gyda dyfais cymorth arnofio
    3. Bod yn ddigon ffit yn gorfforol a meddygol i gymeryd rhan
    4. Bod dros 14 oed neu rhwng 14 & 18 os yn y dosbarth iau ar 20.5.11
    5. Cytuno i ymddwyn yn ystyriol ac ufuddhau i gyfarwyddiadau gan swyddogion
  16. Rhoddir 'tally' rhifedig i bob rafft, rhaid rhoi hwn i'r Swyddog Cyfri ar y piar ym Mhorthaethwy ar y diwedd. MAE HYN YN HANFODOL I'R TREFNWYR SICRHAU FOD PAWB YN CWBLHAU'R 'RUN' YN DDIOGEL;
  17. Gofynnir i bob criw fod wrth eu rafft 5 munud cyn y c;
  18. Dylai bob rafft fod ar oc;
  19. Caiff pob rafft a criw eu harchwilio gan Archwiliwr sydd a'r farn terfynol;
  20. Gofynnir i bawb sy'n cymeryd rhan arwyddo eu bod yn cytuno gyda'r holl amodau cymeryd rhan a'r rheolau;
  21. Noder bod y fersiwn yma o'r rheolau yn 'provisional' a bod posib eu newid o dro i dro.

Fersiwn 1

stewards

DIOGELWCH:

Gwnewch:

  • Wisgo esgidiau pwrpasol a gwisg pen diogelwch
  • Dewch a dillad sych i newid
  • Gwisgwch ''wetsuit' neu ddilad cynnes
  • Byddwch yn brydlon ar gyfer derbyn cyfarwyddiadau, arolygu a'r cychwyn
  • Byddwch yn wyliadwrus am gyhoeddiadau am newidiadau
  • Mwynhewch ddiwrnod diogel a phleserus

Peidiwch a:

  • Gwneud dim i ddifetha'r diwrnod i eraill
  • Yfed alcohol gan nad ydi dwr oer a diod DDIM YN CYMYSGU

Bydd cychod diogelwch.
Sylwer fod y cychod diogelwch yn gyfrifol am warchod y cystadleuwyr gyntaf a bod llusgo rafftiau yn eilradd.
Archwilir pob rafft ar y diwrnod, os dyfernir gan y trefnwyr nad yw'r rafft yn addas i'r mor caiff ei ddiarddel a chollir y taliad.
Bydd yr amser cychwyn yn cydfynd gydag amodau llanw ffafriol. 

GADEWCH I NI FOD O GYMORTH

FFURFLEN GOFRESTU. I'w chwblhau a dychwelyd gyda tsiec am £40 wnaed yn daladwy i ‘Menai Bridge Raft Run Charity’, i'n cyrraedd erbyn 14.5.12. Wedi'r dyddiad hynny £50 fydd y gost. 

CANSLO. Os bydd rhaid canslo oherwydd y tywydd ar y diwrnod caiff £25 ei dalu'n ol.

SYNIAD. Os ydych methu meddwl am achos i godi arian iddo, efallai y gallech gysidro Cronfa Elusen Menai Bridge Raft Run #1121383 – caiff yr arian ei ddosbarthu i elusennau ac achosion da lleol.

Ffurflenni i'w cwblhau a'u dychwelyd (gydag amlen fawr s.a.e.) i:

Y Trefnwyr, Menai Bridge Charity Raft Run, 3 Cae Ffynnon, Hen Llandegfan, Ynys Mon LL59 5PR